@eli333abeth:

Lizziehauger
Lizziehauger
Open In TikTok:
Region: GB
Thursday 30 January 2025 15:58:16 GMT
3192
169
1
2

Music

Download

Comments

howard.benjamin04
Howard Benjamin :
😁😁😁
2025-01-30 22:27:39
0
To see more videos from user @eli333abeth, please go to the Tikwm homepage.

Other Videos

Mae merch “brysur” o Fethesda wedi’i phenodi’n gydlynydd llyfrau llafar Cymraeg Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru.  Mae gan Einir nam golwg Stargardts sy’n golygu ei bod hi angen peiriannau arbennig i ddarllen print man. Cyn ymuno a’r Gymdeithas bu’n gweithio i’r Swyddfa Bost am 27 mlynedd. Meddai Einir: “Fe rois i’r gorau i’r swydd honno oherwydd d’oeddwn i ddim yn medru dweud y gwahaniaeth rhwng y pres; y nodau a lliwiau. Mae’n briod a Chris ac yn fam i Enoc, 18 a Begw, 14 ac yn llysfam i Cari, 18. Mae’n byw yn Gerlan, Bethesda. Mae hi wrth ei bodd gyda’i swydd newydd.  Meddai: “Dwi wedi arfer gweithio yn y Swyddfa Bost ynghanol pobol. Dwi’n hoffi gweithio fel tîm yn helpu’n gilydd.
Mae merch “brysur” o Fethesda wedi’i phenodi’n gydlynydd llyfrau llafar Cymraeg Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru. Mae gan Einir nam golwg Stargardts sy’n golygu ei bod hi angen peiriannau arbennig i ddarllen print man. Cyn ymuno a’r Gymdeithas bu’n gweithio i’r Swyddfa Bost am 27 mlynedd. Meddai Einir: “Fe rois i’r gorau i’r swydd honno oherwydd d’oeddwn i ddim yn medru dweud y gwahaniaeth rhwng y pres; y nodau a lliwiau. Mae’n briod a Chris ac yn fam i Enoc, 18 a Begw, 14 ac yn llysfam i Cari, 18. Mae’n byw yn Gerlan, Bethesda. Mae hi wrth ei bodd gyda’i swydd newydd. Meddai: “Dwi wedi arfer gweithio yn y Swyddfa Bost ynghanol pobol. Dwi’n hoffi gweithio fel tîm yn helpu’n gilydd." Tan yn ddiweddar ni wyddys Einir am fodolaeth canolfan adnoddau Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor tan iddi gyfarfod y prif weithredwr, Steven Thomas, ym Methesda. Meddai: “Yna fe ddois i yma i’r ganolfan a chael offer i’m helpu i goginio a lampau bach.” Hefyd yn y ganolfan mae stiwdio recordio GWRANDO ar gyfer llyfrau llafar a phapurau bro. Fel cydlynydd llyfrau llafar y Gymdeithas, Einir sy’n dewis y llyfrau i’w recordio fel llyfrau llafar. Meddai: “’Da ni yn dewis llyfrau mae ‘na alw amdanyn nhw; llyfrau sydd wedi ennill yn yr Eisteddfod neu’n sy’n llyfr y flwyddyn. “Da ni yn cynhyrchu 24 o lyfrau llafar bob blwyddyn; tri chylch gwahanol; wyth llyfr ymhob cylch. “Mae ‘na bedwar llyfr i oedolion a phedwar i blant ymhob cylch; plant dan saith oed a dros saith ac i ddysgwyr.” Y Gymdeithas sy’n cynhyrchu’r cloriau ac yn dosbarthu’r llyfrau llafar i 22 o lyfrgelloedd trwy Gymru. Meddai Einir: “Da ni’n cynhyrchu’r llyfrau llafar fel CDs, MP3 ac USBs ac mae’n bosib eu benthyg drwy gynllun Borrowbox yn y llyfrgelloedd trwy eu llawrlwytho.” “Mae’r darllenwyr - sy’n actorion yn bennaf - yn dod yma i’n stiwdio GWRANDO i ddarllen y llyfrau a recordio gyda’n peiriannydd sain, Ieuan Clwyd Davies, sy’n golygu’r recordiad. Wedyn dwi’n gwrando a phrofi’r darlleniad i weld os ydio’n gywir." Mae Einir yn gweithio dau ddiwrnod i’r Gymdeithas ac fel cynghorydd sir weddill yr wythnos wedi ar ôl cael ei hethol yn gynghorydd sir Plaid Cymru dros Gerlan bedair blynedd yn ôl. Mae’n aelod o fwrdd rheoli Parc Cenedlaethol Eryri, yn un o gyfarwyddwyr Partneriaeth Ogwen, ar fwrdd rheoli Neuadd Ogwen ac yn gynghorydd cyngor cymuned Bethesda. Mae hefyd yn llywodraethwr Ysgol Abercaseg a Penybryn ac Ysgol Dyffryn Ogwen ac ar bwyllgor caban Gerlan. Ar un adeg bu’n cadw tafarn y Llangollen ym Methesda. Meddai: “’Dwi yn un o’r bobl yma sy’n methu dweud na, sdi! ‘Dwi’n licio cadw’n brysur!” Ymysg diddordebau eraill Einir mae mynd i’r gampfa, codi pwysau, nofio a cherdded y mynyddoedd efo’i gŵr a ffrindiau. Mae’n hoffi cerddoriaeth a gwrando ar fandiau mewn gwyliau. Mae croeso i unrhyw un argymell hoff lyfr neu lyfrau i gael eu recordio fel llyfr llafar drwy gysylltu ag Einir 01248 353604 neu [email protected] A "busy" woman from Bethesda has been appointed Welsh audio books co-ordinator for the North Wales Society of the Blind. Einir has Stargardts disease which means she needs helps to read small print. Before joining the Society she worked for the Post Office for 27 years. She is married to Chris and is mother to Enoc, 18 and Begw, 14 and stepmother to Cari, 17. Einir lives in Gerlan, Bethesda. Einir loves her new job. She said: "I'm used to working with people. I like working as a team helping each other.” As the Society's audio book co-ordinator, Einir chooses which books should be recorded as audio books. "We produce 24 audio books each year; three different cycles; eight books in each cycle. "We produce the audio books as CDs, MP3 and USBs and it is possible to borrow them through the libraries’ Borrowbox scheme by downloading them." Contact Einir: 01248 353604; [email protected] #dall #namgolwg #llyfraullafar #audiobooks #stargard

About